Côr Poliffonig Caerdydd

cartref cyngherddau i ddod cyngherddau diweddar hanes y côr cyfarwyddwr cerdd cyfeilydd cysylltiad  

Crynodeb byr o hanes y côr

Mae gan Gôr Polffonig Caerdydd, sydd bellach yn ei 48fed blwyddyn, hanes y mae’n ymfalchio ynddo.  Bu’r Côr yn llusgennad i Gerddoriaeth Cymreig wrth iddo fynd ar daith i‘r UDA ar naw achlysur.  Y mae ei deithiau i’r Eidal, Llydaw. Awstria, Yr Almaen, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Denmarc a Prague wedi hyrwyddo enw da rhyngwladol y côr.  Gartref, hefyd, y mae enw da’r côr yn gadarn.

Y mae wedi perfformio ym mhrif ganolfannau cerddorol Llundain â bu'n cydweithio â rhai o arweinyddion a cherddorfeydd mwyaf ein cyfnod – Y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Genedlaethol Cymru, Y Baróc Llundain, Chwareuwyr Mozart Llundain a’r Hallé.

Y mae wedi canu o dan faton Syr Colin Davis, Syr Charles Groves, Richard Hickox, Syr Roger Norrington, Syr John Eliot Gardiner, Syr Andrew Davis, Jane Glover, Paavo Berglund, a John Alldis.

Bu 2009, 2010 a 2011   yn flynyddoedd yn llawn o ddigwyddiadau cynhyrfus. Mae rhain wedi cynnwys taith i Bruges ac i Rovigio yn Yr Eidal; 7 o gyngherddau elusennol a gafodd gefnogaeth dda a pherfformiad o “Dewi Sant" gan Arwel Hughes yn y Proms Cymreig. Canodd grŵp o’r côr Symffoni Gorawl Cyntaf Holst yn Y Proms yn Neuadd Albert yn 2009  ar y cyd gyda Chorws Cenedlaethol Cymru y BBC a Chorws Symffoni y BBC.

Cychwynnodd 2010 gyda pherfformiad o Gosperau Rhachmaninov  a gafodd dderbyniad da yn St Martin in the Fields yn Llundain (cawsom ein gwahodd yn ôl i ganu y gwaith yn Chwefror 2012), Offeren Verdi gyda Chorws Cenedlaethol Cymru y BBC,  a gwnaethom ein ymddangosiad cyntaf mewn cyngerdd yn Eglwys Sant Siôr, Brandon Hill, Bryste yn yr Hydref mewn perfformiad o Petite Messe Solennele gan Rossini. 

Gwelwyd 2011 yn dod a pherfformiad byw ar Radio 3 o Roméo et Juliette   yn Neuadd Dewi Sant gyda Cherddorfa Cenedlaethol Cymru y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymru y BBC; perfformiad o Offeren yn G leiaf gan Vaughan Williams; Gosperau Rachmaninov i neuadd orlawn fel rhan o Ŵyl Budleigh Salterton. Gorffennodd y flwyddyn gyda’r Côr yn rhoddi perfformiad o’r Meseia gyda Florilegium yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Ac yna am dipyn o hwyl, canu carol yn fyw ar Y One Show ar BBC 1 ar Rhagfyr 23ain!

 

  Cardiff Polyphonic Choir